Pwyll ap Sion

Dyddiad: Ebrill 2008

Bydd y cyfansoddwr Pwyll ap Sion yn derbyn cydnabyddiaeth ryngwladol mewn cystadleuaeth ffidil bwysig yng Nghaerdydd sy’n cychwyn ar Ebrill 11eg.

Fe ddewiswyd darn Pwyll ap Sion i ffidil unawdol, Y Gwenith Gwyn, fel un o’r darnau prawf i offerynwyr ifanc o dan 16 oed yng Nghystadleuaeth Menhuin – cystadleuaeth fydd yn ymestyn dros dri diwrnod. Bydd y darn hefyd yn cael ei berfformio yn y cyngerdd Gala mawr sy’n cloi’r ŵyl yng Nghanolfan y Mileniwm nos Sul, 20fed Ebrill, pan fydd y prif wobrau i gyd yn cael eu cyflwyno.

Mae’r darn hefyd wedi ymddangos y mis hwn yn un o brif gylchgronau’r byd ar gyfer feiolinwyr, The Strad.

Cystadleuaeth Menuhin yw’r brif gystadleuaeth ryngwladol i feiolinwyr ifanc. Fe’i sefydlwyd gan Yehudi Menuhin ym 1983 a bydd yn dathlu ei phenblwydd yn 25 oed yng Nghaerdydd eleni. Mae’r gystadleuaeth yn denu rhai o ddoniau offerynnol disgleiriaf y byd; mae enillwyr blaenorol megis Tasmin Little a Nikolaj Znaider, wedi cael llwyddiant rhyngwladol ar y lefel uchaf bosibl.

“Mae hwn yn gyfle mawr i mi,” meddai Pwyll. “Cefais wahoddiad gan y pianydd a chyfarwyddwr cystadleuaeth Menuhin, Gordon Back, i ysgrifennu darn ar gyfer y digwyddiad yng Nghaerdydd. Cytunai’r ddau ohonom y byddai’n addas i gyflwyno elfen Gymreig, felly mi es ati i gyfansoddi thema a phedwar amrywiad ar ‘Bugeilio’r Gwenith Gwyn’. Pwysleisiodd Gordon na ddylwn deimlo unrhyw lyffethair, oherwydd byddwn yn ysgrifennu ar gyfer rhai o offerynwyr mwyaf talentog y byd.”

Mae Pwyll, sy’n ddarlithydd hŷn yn Ysgol Gerddoriaeth Prifysgol Cymru, Bangor, wedi cyfansoddi cerddoriaeth ar gyfer perfformwyr amlwg iawn, gan gynnwys Bryn Terfel, Iwan Llewelyn-Jones, Jeremy Huw Williams, a Llŷr Williams, a hefyd cerddorion o’r tu hwnt i Gymru, megis y grwp Siapaneaidd, Ensemble Tozai. Ymddangosodd ei gerddoriaeth ar gryno ddisgiau gan gynulliad pres y Cwmni Opera Cenedlaethol, Jeremy Huw Williams (Bariton), Iwan Llewelyn-Jones (Piano), y soprano Buddug Verona James, a Deuawd Biano Davies (mae’r ddeuawd hon, Helen a Harvey Davies, ar daith ar hyn o bryd yn hyrwyddo eu CD newydd ac yn perfformio un o ddarnau Pwyll i’r piano, ‘Emyn’).

Cyhoeddir The White Wheat / Y Gwenith Gwyn gan Gwmni Cyhoeddi Gwynn, Talysarn, ynghyd â dau ddarn arall tebyg, hefyd yn seiliedig ar alawon Cymreig adnabyddus, Y Deryn Pur a’r Bore Glas.

Ei gyfansoddiad diweddaraf yw un ar gyfer lleisiau meibion o’r enw Diwedd, er cof am y cyfansoddwr Cymreig adnabyddus Alun Hoddinott a fu farw ym mis Mawrth eleni.

Dywedodd Arfon Gwilym, Rheolwr Cwmni Cyhoeddi Gwynn, ei fod wrth ei fodd fod Y Gwenith Gwyn wedi ei ddewis ar gyfer achlysur fel hwn. “Mae’n gwbl briodol fod cyfansoddwr Cymreig a cherddoriaeth Gymreig yn cael lle mor amlwg pan fydd gŵyl bwysig fel hon yn dod i Gymru. Mae Pwyll ap Sion yn un o’r cyfansoddwyr mwyaf cynhyrchiol yng Nghymru heddiw, ac mae’n fraint i gwmni Gwynn gyhoeddi ei gerddoriaeth ac i hybu ei yrfa ym mhob ffordd bosibl.”

Yn ôl i'r dudalen newyddion.