Meirion Williams (1901-1976)

Ganwyd Meirion Williams (1901-1976) yn Nyffryn Ardudwy, a chyda phresenoldeb cerddorol cryf ar yr aelwyd gan ei fam (Mary Elizabeth Williams, 1875-1947) fe ymddiddorodd mewn cerddoriaeth yn ifanc iawn. Wedi dwy flynedd o astudio cerddoriaeth gyda Syr Walford Davies yng Ngholeg Prifysgol Aberystwyth penderfynodd ddilyn cwrs yn yr Academi Frenhinol yn Llundain, gan ennill amryw o wobrau am chwarae’r piano. Fel cyfansoddwr caneuon y cofir Meirion Williams yn bennaf.
Yn 1928 sefydlodd ei hun fel cerddor llawrydd yn Llundain cyn i'r rhyfel amharu ar ei yrfa ym 1939. Yn ddiweddarach cynyddodd ei statws fel cyfansoddwr amryddawn drwy dderbyn tri chomisiwn gan y BBC, gan gynnwys Adlewych yn 1968. Aeth ati i drwytho ei hun yng ngweithiau cyfansoddwyr megis Schubert, Richard Strauss, Wolf a Rachmaninov, ac nid oedd ganddo gywilydd arddel dylanwad ambell un o'r cyfansoddwyr hynny ar rai o'i ganeuon adnabyddus.
Parhaodd pethau syml a chyffredin bywyd-cefn-gwlad i apelio ato. Swynwyd ef gan flodau a hefyd gan harddwch ac ysblander ambell olygfa gyfarwydd yng Ngwynedd, ac wedi iddo ymgartrefu ymhell o'i gynefin nid oedd syndod gweld bod delweddau megis "Y Blodau ger y drws", "Rhosyn yr haf", "Y Llyn", "Cwm Pennant" a'r "mynyddau mawr" yn dal i'w ysbrydoli.

Yn ôl i'r dudalen cyfansoddwyr.