Mansel Thomas (1909 -1986)

Bu Mansel Thomas (1909-1986) yn un o gerddorion mwyaf dylanwadol ei genhedlaeth yng Nghymru. Fe’i ganwyd ym Mhontgwaith yn y Rhondda Fach, a dangosodd dalent naturiol fel cyfansoddwr a phianydd yn ei blentyndod. Yn bymtheg oed enillodd Ysgoloriaeth y Rhondda i astudio yn yr Academi Gerdd Frenhinol yn Llundain o dan oruchwyliaeth Benjamin Dale gan raddio yn 1930. Ymunodd gyda’r BBC yng Nghaerdydd yn 1936 fel cynhyrchydd ac arweinydd cynorthwyol o Gerddorfa Gymreig y BBC, ac yn 1950 fe’i apwyntiwyd fel Pennaeth Cerdd, BBC Cymru.
Yn 1965 penderfynodd ymddeol yn gynnar er mwyn canolbwyntio ar gyfansoddi, lle y mwynhaodd cyfnod mwyaf cynhyrchiol ei yrfa drwy lunio dwy dreuan o’i holl gyfansoddiadau lleisiol unawdol. Yn gynnar yn ei yrfa dangosodd allu anhygoel i gyfansoddi caneuon, a ddaeth i fod yn brif gyfrwng artistig creadigol iddo, ac o ganlyniad cafwyd dros 150 o ganeuon a threfniannau lleisiol. Ymysg ei ganeuon gorau ceir Y Bardd, sy’n osodiad dwys o englynion enwog R Williams Parry, Hedd Wyn. Ysbrydolodd y gân hon ddwyster ac ing a oedd yn brin iawn yng ngweddill ei gynnyrch, fel y dywedodd William Mathias “…os oes gosodiad mwy anesmwyth o eiriau Cymraeg, ni wn amdano.” Parha statws uchel Mansel Thomas fel cyfansoddwr Cymreig hyd heddiw, ac fe’i anrhydeddwyd gyda’r OBE a’r PRAM am ei wasanaeth i gerddoriaeth ym Mhrydain. Gadawodd gyfoeth o gyfansoddiadau amhrisiadwy, gyda nifer ohonynt ond yn dod i’r amlwg (hyd yn oed i’w deulu) wedi ei farwolaeth.

Yn ôl i'r dudalen cyfansoddwyr.