John Hywel

Ganwyd John Hywel ym Mae Cemaes, Ynys Môn yn 1941 a dechreuodd gyfansoddi pan yn ddeuddeg oed. Fe’i haddysgwyd yn ysgol Syr Thomas Jones, Amlwch cyn astudio cerddoriaeth yng Ngholeg Prifysgol Bangor gan raddio yn 1962 a derbyn M.Mus dwy flynedd yn ddiweddarach. Wedi astudio cyfansoddi gyda Reginald Smith Brindle a William Mathias aeth ymlaen i astudio arwain gyda Maurice Miles yn yr Academi Gerdd Frenhinol gan ennill gwobr arwain Ernest Read yn 1965.
Fe’i penodwyd yn ddarlithydd yn yr Adran Gerddoriaeth yng Ngholeg Prifysgol Bangor yn 1966, gan ddod yn Bennaeth Adran rhwng 1987 ac 1991. Arbenigodd mewn arwain cerddorfeydd a chorau, gan gynnwys Côr, Cerddorfa a Chymdeithas Opera y Brifysgol, ynghyd â Chantorion Seiriol, Cantorion Menai, Côr Pwllheli a’r Cylch, a Chorau Meibion Caernarfon a’r Traeth, ymysg eraill. Arweiniodd gerddorfeydd proffesiynol megis y Northern Sinfonia a Cherddorfa Gymreig y BBC.
Gwasanaethodd fel Golygydd Cerdd a Chyfarwyddwr Cwmni Cyhoeddi Gwynn o 1984 i 2002. Bu’n gyfrifol am lawer o drefniannau ar gyfer corau, megis ei gyfres o ganeuon gwerin Mae ‘Nghariad I’n Fenws, Ar Lan y Môr, ac Oes Gafr Eto? ar gyfer SATB, ynghyd â’r gyfrol hynod boblogaidd Caneuon Enwog Cymru.

Yn ôl i'r dudalen cyfansoddwyr.