Gareth Glyn

Ganed Gareth Glyn ym Machynlleth ym 1951 a graddiodd mewn Cerddoriaeth yng Ngholeg Merton Rhydychen, ac mae'n dal LRAM fel Cyfansoddwr o'r Academi Gerdd Frenhinol. Dechreuodd gyfansoddi pan yn ddisgybl yn Ysgol Maes Garmon, Yr Wyddgrug gan dderbyn darllediadau o’i weithiau tra'r oedd yn dal yn fyfyriwr.
Trodd at gyfansoddi fel gyrfa ar ôl ennill sawl cystadleuaeth gyfansoddi yn y 1970au, ac ers hynny nid yw wedi bod heb gomisiwn ar y gweill. Perfformir ei weithiau ledled y byd gyda sawl recordiadau o’i gyfansoddiadau. Cafodd ei urddo'n Dderwydd Er Anrhydedd yng Ngorsedd Beirdd Ynys Prydain, ac yn Gymrodor Er Anrhydedd gyda Phrifysgol Cymru, Bangor, am ei gyfraniad i gerddoriaeth yng Nghymru.
Mae ei arddull yn ysgafn ac egnïol gan apelio at groesdoriad eang o gorau ac unawdwyr. Un o’r darnau mwyaf poblogaidd yw Cadwyn, sef trefniant o bum cân werin Cymreig (gan gynnwys Suo Gân) ar gyfer SATB. Yn ogystal ceir Seren Newydd, sef drama gerdd y geni ar gyfer unawdwyr a chôr, ynghyd â Gen i Farch Glas ar gyfer TTBB.

Yn ôl i'r dudalen cyfansoddwyr.