Dilys Elwyn Edwards

Ganwyd Dilys Elwyn-Edwards yn Nolgellau yn Sir Feirionnydd. Bu'n ddisgybl yn Ysgol Dr Williams, Dolgellau, ac ar ôl dilyn cwrs gradd mewn cerddoriaeth yng Ngholeg Prirysgol Caerdydd aeth ymlaen i astudio cyfansoddi gyda Herbert Howells yn y Coleg Brenhinol yn Llundain. Dewisodd arbenigo mewn cerddoriaeth leisiol ac y mae bellach yn cael ei chydnabod fel un o brif gyfansoddwyr Cymru.
Ysgrifennodd y mwyafrif o'i gweithiau i gomisiwn ac y maent wedi eu perfformio'n helaeth mewn cyngherddau, darllediadau radio a theledu, ym Mhrydain a thu hwnt. Cafodd un comisiwn ei berfformiad cyntaf yn ddiweddar ym Mhrifysgol y North Western yn Chicago ac y mae ei chyfansoddiadau, yn arbennig ei chaneuon, yn dod yn fwyfwy poblogaidd yn yr Unol Daleithiau.
Ymysg ei gwaith enwocaf ceir Caneuon y Tri Aderyn, cylch o dair cân a gomisiynwyd gan y BBC yn 1961. Dros y blynyddoedd fe berfformiwyd a recordiwyd y cylch gan amryw o unawdwyr cydnabyddedig y wlad, gan gynnwys Charlotte Church, ac fe gydnabyddir Mae Hiraeth yn y Môr ymhlith y caneuon celf gorau a ysgrifenwyd gan gyfansoddwr Cymraeg, ac yn ffefryn arbennig gan gynulleidfaoedd gartref a thramor.

Yn ôl i'r dudalen cyfansoddwyr.