Ers ei sefydlu yn 1937 gan W.S.Gwynn Williams,
bu Cwmni Cyhoeddi Gwynn ar flaen y gad yn niwydiant cyhoeddi
cerddoriaeth Cymru,
gan ganolbwyntio yn bennaf ar y repertoire lleisiol a chorawl,
ac ehangu'r deunydd perfformio ar gyfer y traddodiad corawl
ledled y wlad.
Erbyn hyn, caiff ein cyhoeddiadau eu perfformio'n
gyson mewn cyngherddau o bwys, gyda darllediadau a recordiadau
cyson o'n cerddoriaeth gan nifer o artistiaid blaenllaw,
megis Côr Meibion Cymry Llundain, y soprano coloratura
adnabyddus Charlotte Church (Caneuon y Tri Aderyn gan
Dilys Elwyn-Edwards), a'r bariton byd-enwog Bryn Terfel
(Adlewych
gan Meirion Williams). |