Archif Newyddion

Ionawr 2010

Myfyrwraig Gwaith Ymchwil

Mae Cwmni Cyhoeddi Gwynn yn falch o gael croesawu myfyriwr ymchwil o Brifysgol Cymru, Bangor, am gyfnod o flwyddyn i fagu profiad ac i hybu rhai agweddau penodol o waith y cwmni. Mae hwn yn drefniant o dan gynllun KESS (Knowledge Economy Skills Scholarship) y Brifysgol. Un o bentref Eglwysbach yn Nyffryn Conwy yw Mared Emlyn. Graddiodd mewn Cerddoriaeth yn Ysgol Gerdd Prifysgol Cymru, Bangor y llynedd, gan arbenigo ar y delyn, a bellach mae hi'n dilyn cwrs MA ac yn gobeithio mynd ymlaen y flwyddyn nesaf i ddilyn cwrs doethuriaeth. Bydd yn gweithio'n rhan amser i'r cwmni tra'n dilyn ei chwrs.

Gorffennaf 2009

Gweithiau newydd gan Gareth Glyn

Mae Cwmni Cyhoeddi Gwynn yr wythnos hon yn cyhoeddi 15 o ddarnau corawl gan Gareth Glyn. Mae’r rhan fwyaf ohonynt yn ddarnau newydd sbon, ac eraill yn ddarnau a gyfansoddwyd dros gyfnod o rai blynyddoedd ar gyfer corau unigol neu achlysuron penodol, ond heb eu cyhoeddi i’r byd cyn hyn. Mae 11 o’r darnau ar gyfer côr cymysg a phedwar darn ar gyfer côr meibion.
Mae’r casgliad yn cynnwys amrywiaeth fawr o ran cynnwys a naws. Er enghraifft, ar un llaw, y gosodiad gorfoleddus o Salm 150 (darn a berfformiwyd gan Gôr Pontarddulais gyda Cherddorfa Symffoni Gymreig y BBC), ac ar y llaw arall, ‘Traed’ – cerdd dafod-yn-y-boch gan Gwyn Thomas yn disgrifio baban yn darganfod ei draed am y tro cyntaf!
 
Mae hanes diddorol hefyd y tu ôl i ‘Brodyr i’w Gilydd’. Cyfansoddwyd y geiriau yn wreiddiol gan wraig Gareth, Eleri Cwyfan, yn dilyn cwymp mur Berlin ym 1989. Mae’n cynnwys geiriau fel Dymchwelwyd y muriau, digwyddodd gwyrth, Torrodd y wawrddydd hardd….O Arglwydd rhwyma ni yn fyd cytun, Cadwynau cariad yn ein clymu’n un. Drwy gyd-ddigwyddiad, roedd Cwmni Gwynn yn danfon y copi terfynol o'r gwaith i’r wasg ar yr union ddiwrnod yr etholwyd Barack Obama yn Arlywydd yr Unol Daleithiau – ac roedd y geiriau yn ymddangos yn arbennig o briodol ar y diwrnod hwnnw, ugain mlynedd yn ddiweddarach, yn ogystal â’r teitl Saesneg ‘Never Was Dawn So Bright’.
 
Mae’r amrywiaeth yng nghynnwys y darnau yn adlewyrchu amrywiaeth awduron y cerddi gwreiddiol – Gwyn Thomas, Gerallt Lloyd Owen, Alan Llwyd, Gwenallt, Saunders Lewis, Gwynn ap Gwilym, Geraint Vaughan Jones, Elinor Wyn Reynolds, Gwyneth Evans, a hyd yn oed Madog ap Gwallter, bardd o’r 13eg ganrif (‘Mab a’n Rhodded’).
 
Mae’r rhan fwyaf o’r darnau ar gael gyda geiriau yn Gymraeg a Saesneg – y geiriau yn amlach na pheidio wedi eu cyfieithu i’r Saesneg gan Gareth Glyn ei hun.
 
Meddai Gareth Glyn: “Mae cael cynifer o gyfansoddiadau o’m heiddo yn ymddangos o’r wasg ar yr un pryd yn unigryw yn fy mrhofiad i, ac mi rydw i’n hynod o ddiolchgar i Gwmni Gwynn am ymgymryd â’r rhaglen gyhoeddi uchelgeisiol hon, a hefyd am eu gofal a dychymyg wrth gynllunio diwyg y cloriau atyniadol.  Rydw i’n gobeithio y bydd yna rywbeth yn y gyfres hon at ddant a gallu corau o bob cyrhaeddiad.”
 
Meddai Rheolwr Cwmni Gwynn, Arfon Gwilym: “Braint arbennig yw cyhoeddi casgliad fel hwn gan un o’r cerddorion uchaf ei barch yng Nghymru heddiw. Mae’n anodd dychmygu neb sy’n fwy cynhyrchiol na Gareth na gyda chystal dawn i greu cerddoriaeth sy’n cyfleu union naws y geiriau, a hynny mewn arddull unigryw gyfoes. Bydd y darnau yn ychwanegiad hynod o werthfawr i repertoire corau, nid yn unig yng Nghymru, ond ledled y byd.”

Rhagfyr 2009

Caneuon Migmas

Yr wythnos yma cyhoeddir casgliad o ganeuon i blant sy’n debyg o ddod yn gyfarwydd iawn ledled Cymru yn y blynyddoedd nesaf oherwydd eu hapêl arbennig.

Darlledwyd y caneuon i gyd yn wreiddiol yn y gyfres deledu i blant, MIGMAS, rai blynyddoedd yn ôl – cyfres oedd yn hynod o boblogaidd ar y pryd.

Mae’r gyfrol yn ffrwyth cydweithrediad pedwar aelod o’r un teulu, sef Dyfan Roberts, cynhyrchydd y gyfres deledu, actor yn y gyfres, ac awdur geiriau’r caneuon i gyd; Efa Dyfan ei ferch, sy’n gyfrifol am y darluniau hyfryd sy’n britho’r gyfrol drwyddi draw (mae Efa yn dilyn cwrs Celf yng Ngholeg Menai ar y funud); Angela Roberts, gwraig Dyfan, awdures y straeon gwreiddiol; a Sioned Webb, chwaer-yng-nghyfraith Dyfan, sy'n gyfrifol am yr holl drefniannau.

Awdur cerddoriaeth y caneuon yw Dilwyn Roberts o Ddeganwy (dim perthynas!).

Mae cyfeiliant piano ar gael i’r holl ganeuon, ond i gydfynd gyda’r gyfrol hefyd, er hwylustod cyhoeddir cryno ddisg o’r holl ganeuon. Codwyd yr holl ganeuon o draciau sain gwreiddiol y rhaglenni teledu, sy’n golygu fod modd gwerthfawrogi’r holl leisiau a’r holl gymeriadau rhyfedd.

Anturiaethau tri chymeriad oedd sail y gyfres – Abra, Fflip a Mr Mŵ – y tri yn byw yng Nghastell Migmas ac yn cael pob math o brofiadau wrth drin pethau coll y byd. Caneuon syml, llawn doniolwch ydyn nhw: er enghraifft, cân am broblemau bwyta gormod o ffa, cân am Nain ryfedd sydd wrth ei bod dyn taflu dillad ar lawr a gwneud pob man yn flêr, a chân am fam cŵn bach yn canu’r blŵs am fod ei chŵn bach ar goll.

Pan oedd y cymeriadau hyn i’w gweld a’u clywed ar gyfres deledu Migmas ar S4C, roedd plant Cymru wrth eu boddau, a’r ymateb yn frwd o bob cyfeiriad. Bydd cyhoeddi’r detholiad hwn o ganeuon gorau’r gyfres yn gyfle i blant Cymru ail-greu hwyl a phleser y gyfres deledu wreiddiol unwaith eto.

Ebrill 2008

Pwyll ap Sion

Bydd y cyfansoddwr Pwyll ap Sion yn derbyn cydnabyddiaeth ryngwladol mewn cystadleuaeth ffidil bwysig yng Nghaerdydd sy’n cychwyn ar Ebrill 11eg.

Fe ddewiswyd darn Pwyll ap Sion i ffidil unawdol, Y Gwenith Gwyn, fel un o’r darnau prawf i offerynwyr ifanc o dan 16 oed yng Nghystadleuaeth Menhuin – cystadleuaeth fydd yn ymestyn dros dri diwrnod. Bydd y darn hefyd yn cael ei berfformio yn y cyngerdd Gala mawr sy’n cloi’r ŵyl yng Nghanolfan y Mileniwm nos Sul, 20fed Ebrill, pan fydd y prif wobrau i gyd yn cael eu cyflwyno.

Mae’r darn hefyd wedi ymddangos y mis hwn yn un o brif gylchgronau’r byd ar gyfer feiolinwyr, The Strad.

Cystadleuaeth Menuhin yw’r brif gystadleuaeth ryngwladol i feiolinwyr ifanc. Fe’i sefydlwyd gan Yehudi Menuhin ym 1983 a bydd yn dathlu ei phenblwydd yn 25 oed yng Nghaerdydd eleni. Mae’r gystadleuaeth yn denu rhai o ddoniau offerynnol disgleiriaf y byd; mae enillwyr blaenorol megis Tasmin Little a Nikolaj Znaider, wedi cael llwyddiant rhyngwladol ar y lefel uchaf bosibl.

“Mae hwn yn gyfle mawr i mi,” meddai Pwyll. “Cefais wahoddiad gan y pianydd a chyfarwyddwr cystadleuaeth Menuhin, Gordon Back, i ysgrifennu darn ar gyfer y digwyddiad yng Nghaerdydd. Cytunai’r ddau ohonom y byddai’n addas i gyflwyno elfen Gymreig, felly mi es ati i gyfansoddi thema a phedwar amrywiad ar ‘Bugeilio’r Gwenith Gwyn’. Pwysleisiodd Gordon na ddylwn deimlo unrhyw lyffethair, oherwydd byddwn yn ysgrifennu ar gyfer rhai o offerynwyr mwyaf talentog y byd.”

Mae Pwyll, sy’n ddarlithydd hŷn yn Ysgol Gerddoriaeth Prifysgol Cymru, Bangor, wedi cyfansoddi cerddoriaeth ar gyfer perfformwyr amlwg iawn, gan gynnwys Bryn Terfel, Iwan Llewelyn-Jones, Jeremy Huw Williams, a Llŷr Williams, a hefyd cerddorion o’r tu hwnt i Gymru, megis y grwp Siapaneaidd, Ensemble Tozai. Ymddangosodd ei gerddoriaeth ar gryno ddisgiau gan gynulliad pres y Cwmni Opera Cenedlaethol, Jeremy Huw Williams (Bariton), Iwan Llewelyn-Jones (Piano), y soprano Buddug Verona James, a Deuawd Biano Davies (mae’r ddeuawd hon, Helen a Harvey Davies, ar daith ar hyn o bryd yn hyrwyddo eu CD newydd ac yn perfformio un o ddarnau Pwyll i’r piano, ‘Emyn’).

Cyhoeddir The White Wheat / Y Gwenith Gwyn gan Gwmni Cyhoeddi Gwynn, Talysarn, ynghyd â dau ddarn arall tebyg, hefyd yn seiliedig ar alawon Cymreig adnabyddus, Y Deryn Pur a’r Bore Glas.

Ei gyfansoddiad diweddaraf yw un ar gyfer lleisiau meibion o’r enw Diwedd, er cof am y cyfansoddwr Cymreig adnabyddus Alun Hoddinott a fu farw ym mis Mawrth eleni.

Dywedodd Arfon Gwilym, Rheolwr Cwmni Cyhoeddi Gwynn, ei fod wrth ei fodd fod Y Gwenith Gwyn wedi ei ddewis ar gyfer achlysur fel hwn. “Mae’n gwbl briodol fod cyfansoddwr Cymreig a cherddoriaeth Gymreig yn cael lle mor amlwg pan fydd gŵyl bwysig fel hon yn dod i Gymru. Mae Pwyll ap Sion yn un o’r cyfansoddwyr mwyaf cynhyrchiol yng Nghymru heddiw, ac mae’n fraint i gwmni Gwynn gyhoeddi ei gerddoriaeth ac i hybu ei yrfa ym mhob ffordd bosibl.”

Cwmni Cyhoeddi Gwynn | Hen Gapel Salem | Talysarn | Gwynedd | LL54 6AB
+44 (0) 1286 881797 |
| © copyright 2010 |
|  Design & Hosting by WiSS Ltd