Dros 1,000 o weithiau cerddorol yn barod i'w lawrlwytho

Sefydlwyd Cwmni Cyhoeddi Gwynn yn 1937 gan W. S. Gwynn Williams. Mae catalog y cwmni erbyn hyn yn cynnwys dros 1,000 o weithiau cerddorol - ar gyfer corau o bob math, unawdau a deuawdau, gweithiau offerynnol ac yn y blaen. Gan fod y darnau hyn yn cynrychioli dros 80 mlynedd o gyfansoddi a chyhoeddi, mae llawer ohonynt wedi dod yn rhan annatod o ddiwylliant cerddorol Cymru. Mae enwau megis William Mathias, Dilys Elwyn-Edwards, Meirion Wiliams, Gareth Glyn, Brian Hughes a Pwyll ap Sion yn britho’r catalog, heb sôn am holl gyfansoddwyr clasurol Ewrop o’r canrifoedd diweddar.

Mae gweithiau Cwmni Cyhoeddi Gwynn yn awr ar gael i’w lawrlwytho, ar ffurf ffeiliau PDF.

Yr unig eithriad yw casgliadau, llyfrau, neu weithiau ar raddfa fawr. Gellir archebu’r rhain drwy’r post o’r wefan hon. Gellir hefyd archebu copïau ‘caled’ o unrhyw ddarn unigol.